Mae maethu yn golygu gofalu am blentyn rhywun arall yn eich cartref. Mae'n wahanol i fabwysiadu lle mae'r rhiant mabwysiadol yn dod yn rhiant cyfreithiol i'r plentyn.
Ein hamcan yw cefnogi rhieni maeth i alluogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial.
Mae plant yn cael eu cyfeirio atom gan wahanol awdurdodau lleol. Mae ein tîm gwaith cymdeithasol profiadol yn paru gwahanol anghenion y plant a'r bobl ifanc hyn â sgiliau a galluoedd amrywiol rhieni maeth gwahanol.
Gallai plant fod yn ifanc iawn, o oedran ysgol neu'n eu harddegau hŷn. Weithiau maen nhw angen teulu sy'n gallu gofalu amdanyn nhw a'u brodyr a chwiorydd.
Mae plant sydd yng ngofal awdurdod lleol yn dod i fyw gyda Rhieni Maeth, a elwir hefyd yn Ofalwyr Maeth. Cyfeirir at hyn fel lleoliad ar gyfer y plentyn. Nid oes unrhyw ddau blentyn yr un peth ond yn nodweddiadol maent wedi cael dechrau anodd i'w bywydau ac efallai eu bod wedi profi trawma, esgeulustod a chamdriniaeth.
Nod rhaglen Llywodraeth Cymru i ddileu elw o ofalu am blant sy'n derbyn gofal yw atal cwmnïau preifat rhag gwneud arian o faethu. Maent yn cefnogi elusennau fel SFS i barhau i ddarparu'r gwasanaethau a wnawn.
Mae pob plentyn yn wahanol. Er bod llawer o blant mewn gofal wedi cael profiadau bywyd cynnar anffodus ar ddiwedd y dydd mae plant yn blant ac yn haeddu teulu diogel, sicr a chariadus.
Mae rhai rhieni maeth yn gofalu am un plentyn, mae rhai yn gallu darparu cartref i ddau neu fwy o blant, mae rhai yn gallu gofalu am frodyr a chwiorydd i'w cadw i fyw gyda'i gilydd.
Mae hyd yr amser y mae plant yn byw gyda rhieni maeth yn amrywio'n aruthrol. Gall rhai fod yn argyfwng am ychydig o nosweithiau, mae eraill yn aros am flynyddoedd lawer lle mae'r lleoliad wedi'i gynllunio'n ofalus iawn.
Mae pob teulu maeth yn wahanol, mae rhai yn gallu cynnig lleoliadau tymor hir, mae'n well gan eraill ymrwymiad tymor byrrach. Ein gwaith ni yw paru gwahanol sgiliau a phrofiadau rhieni maeth â gwahanol anghenion plant a phobl ifanc yn ofalus iawn. Po orau yw'r gyfatebiaeth, y mwyaf yw'r siawns y bydd y lleoliad yn gweithio'n dda iawn.
I gael rhagor o fanylion am y mathau o ofal maeth cliciwch yma. (tudalen/gwybodaeth bresennol)