Mae rhieni maeth yn bobl gyffredin sy'n gwneud gwaith anghyffredin. Yn gyffredinol, mae angen i rieni maeth fod yn amyneddgar, yn ddeallus ac yn wydn. Mae angen iddynt allu deall pam y gall plentyn fod yn ymddwyn mewn ffordd arbennig, y rhesymau y tu ôl i hynny a gweithio gyda nhw i ffynnu a chyflawni eu llawn botensial.
Perthnasoedd a rhywioldeb
Mae rhai rhieni maeth yn bobl sengl, gall rhai fod mewn perthynas neu'n briod. Mae rhai yn wrywaidd, rhai yn fenywaidd. Mae'n ymwneud â'r hyn y gallwch ei gynnig i blant a phobl ifanc, nid eich statws perthynas neu rywioldeb.
Oed
Rydym yn aml yn cael ein holi am oedran. A oes isafswm neu uchafswm? Er nad oes unrhyw derfynau oedran uchaf nac isaf i fod yn rhiant maeth, bydd angen i chi fod yn ddigon aeddfed ac yn ddigon egnïol i ddiwallu anghenion plant.
Cofnodion Troseddol
Mae rhai troseddau penodol, difrifol iawn a all ddiystyru pobl i fod yn rhiant maeth ar unwaith. Fodd bynnag, mae eraill â throseddau llai difrifol na fyddent yn eu diystyru fel rhieni maeth. Ystyrir pob achos yn unigol. Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn onest agored o'r dechrau. Fel canllaw, po hynaf a lleiaf yw'r drosedd, y lleiaf tebygol yw hi o'ch atal rhag maethu. Yn aml, gall pobl sydd wedi symud ymlaen yn eu bywydau ddod yn rhieni maeth a chael profiad o ddigwyddiadau blaenorol eu bywyd.
Materion Meddygol
Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bawb sy'n maethu gael prawf meddygol i sicrhau eich bod yn ddigon ffit ac iach i ddiwallu anghenion plentyn. Mae hyn fel arfer yn cael ei wneud gan eich meddyg teulu eich hun a gall ein Cynghorydd Meddygol Annibynnol ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol gan ymgynghorydd.
Anabledd
Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor nid yw o reidrwydd yn golygu na fyddwch yn gallu dod yn rhiant maeth. Ein nod yw paru gwahanol sgiliau a galluoedd pob ymgeisydd â'r plant unigol. Rydym yn hapus i sgwrsio'n gyfrinachol â chi am eich amgylchiadau unigol.