Defnyddio cwcis ar wefan Gwasanaethau Maethu â Chymorth
Beth yw cwci?
Ffeiliau testun yw cwcis sy'n cynnwys darnau bach o wybodaeth sy'n cael eu lawrlwytho i'ch dyfais pan fyddwch yn ymweld â gwefan. Yna caiff cwcis eu hanfon yn ôl i'r wefan wreiddiol ar bob ymweliad dilynol, neu i wefan arall sy'n eu hadnabod. Mae cwcis yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn caniatáu i wefan adnabod dyfais defnyddiwr. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am gwcis yn www.allaboutcookies.org a www.youronlinechoices.eu.
Mae cwcis yn gwneud llawer o wahanol swyddi, fel gadael i chi lywio rhwng tudalennau'n effeithlon, cofio'ch dewisiadau, a gwella profiad y defnyddiwr yn gyffredinol. Mae'r cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan wedi'u categoreiddio yn seiliedig ar y categorïau a geir yng nghanllaw ICC UK Cookie. Nodir manylion llawn y cwcis a ddefnyddir ar ein gwefan yn ôl categori isod:
Cwcis perfformiad
Mae'r cwcis hyn yn casglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan Gwasanaethau Maethu â Chymorth, er enghraifft pa dudalennau y mae ymwelwyr yn ymweld â nhw amlaf, pa fath o borwr maen nhw'n ei ddefnyddio, ac os ydyn nhw'n cael negeseuon gwall o dudalennau gwe. Nid ydynt yn casglu gwybodaeth sy'n adnabod ymwelydd. Mae'r holl wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu wedi'i chronni ac, felly, yn ddienw. Fe'u defnyddir yn unig i wella sut mae'r wefan yn gweithio. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno y gallwn osod cwcis o'r fath ar eich dyfais.
Cwcis ymarferoldeb
Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i wefan Gwasanaethau Maethu â Chymorth gofio dewisiadau rydych chi'n eu gwneud a darparu nodweddion gwell a mwy personol. Fe'u defnyddir hefyd i gofio newidiadau yr ydych wedi'u gwneud i faint testun, ffontiau a rhannau eraill o dudalennau gwe y gallwch eu haddasu. Mae'r wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu yn ddienw ac ni allant olrhain eich gweithgarwch pori ar wefannau eraill. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno y gallwn osod cwcis o'r fath ar eich dyfais.